Wythnos/week 100: 30 Mehefin/June-6 Gorffennaf/July 1916

[English below]

Awn ymlaen i wythnos gyntaf Gorffennaf 1916 – canfed wythnos y rhyfel ac mae’r colledion yn drwm – 8 ohonynt. Yn eu plith mae John Emrys Lewis o Bontarfynach – lladdwyd ei frawd, David, yntau ar 18 Chwefror; Stanley West, sy’n marw o’r dwymyn ar y daith bell drwy anialwch Irac; John Henry Howell, sy’n cael damwain beic modur pan ddaw adref ar seibiant salwch; a chyn-gapten Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Oswald Robert John Green.

Dywed y Prif Gwnstabl na chafwyd mwy o newyddion am P.C. Thomas Davies, sydd wedi bod ar goll ers bod yn ymladd ym Mrwydr Loos ar Fedi 27, 1915.

Mae J. Islan Jones yn ysgrifennu llythyr arall – y tro hwn at ei nai, Preifat David Jones. Mae’n ei rybuddio i gadw draw o ardaloedd anwaraidd y trefi ac i osgoi’r milwyr hynny sy’n byw ‘fel moch’.

Ymhlith y lluniau’r wythnos hon mae un o’r Corporal Howard Ll. Roberts, y cartwnydd o’r Borth; un o Mr Bob Lyons sydd wedi’i anafu yn Nairobi; un o’r hen filwr o Aberystwyth, y Preifat Fred Berry, sydd bellach yn Ysbyty Newey; ac un o’r criw o nyrsys gwirfoddol yn Aberteifi.

Mae Bwrdd Gwarcheidwaid Llanbedr Pont Steffan yn cwrdd ar nos Wener a chaiff y Meistr ganiatâd i brynu bara yn lle’i bobi, gan nad oes digon o weithwyr. Yn ddiweddarach yng nghyfarfod Cyngor Gwledig Llanbedr Pont Steffan, penderfynir cefnogi cais yr hewlwyr i gael eu hesgusodi rhag ymladd.

O dan y pennawd ‘Brevities‘ sonnir fod bron i drigain o ddynion wedi ymuno â’r lluoedd. Cyhoeddir y caiff Eisteddfod Genedlaethol 1917 ei chynnal ym Mhenbedw, ger Lerpwl. Bydd bechgyn o dan 17 yn cael eu rhyddhau o’r fyddin.

Yn newyddion Llanon clywn fod y bechgyn ar faes y gad i gyd yn holliach, ac eithrio’r Preifat David Parry, sydd yn yr ysbyty ar ôl i’w iechyd ddirywio.

Y Ceinewydd sydd nesaf, ac mae Jack Thomas Evans wedi’i anafu gan belen dân. Mae nifer o fenywod y dref wedi gwirfoddoli i weithio ym myd amaeth.

Ceir hysbyseb gan gwmni godro R.A. Lister & Co. – “Three Girls Have Milked 76 Cows!!!” – sy’n pwysleisio Prydeindod y cynnyrch.

Moving into the first week of July 1916,-the hundredth week of the war and the casualties are heavy,-8 to report. Amongst them John Emrys Lewis of Devil’s Bridge whose brother, David had fallen on the 18th February; Stanley West who dies of fever on the trek through the desert of Iraq; John Henry Howell who has motorbike accident whilst home on sick leave and former captain of Aberystwyth FC, Oswald Robert John Green.

The Chief Constable reports that no further news has been received regarding P.C. Thomas Davies who has been missing since the Battle of Loos on September 27th, 1915.

J. Islan Jones wites another letter, – this time to his nephew Private David Jones. He warns him to keep away from the low quarters of towns and to avoid those soldiers who are leading a ‘swinish’ life.

Photographs this week include that of the Borth cartoonist Corporal Howard Ll. Roberts; Mr Bob Lyons reported wounded at Nairobi; Aberystwyth veteran Private Fred Berry now in Newey Hospital and the nurses of Voluntary Aid Detachment Cardigan 18.

At Friday’s meeting of the Lampeter Board of Guardians the Master is given permission to purchase bread instead of baking it owing to the lack of staff. In the subsequent meeting of Lampeter Rural Council it is decided to support the roadmen’s application for exemption.

Under the heading ‘Brevities’ it is reported that nearly sixty men have joined the colours. The 1917 Welsh National Eisteddfod to be in held in Birkenhead is proclaimed. Boys under 17 are to be discharged from the army.

Llanon, and all the boys at the front are well except for Private David Parry who is in hospital suffering from a breakdown in health.

New Quay, and Jack Thomas Evans has been injured by shell fire. A number of women have enrolled for agricultural service.

R.A. Lister & Co. Ltd. advertises its milking plant,- “Three Girls Have Milked 76 Cows!!!” plus it’s ‘British made throughout’.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion/Losses

1 Gorffennaf/July 1916

Stanley West of Aberystwyth (also resided in Machynlleth), aged 36. Private, Royal Welch Fusiliers.

John Emrys Lewis of Devil’s Bridge, aged 24. Second Lieutenant, Somerset Light Infantry.

William Henry O’Halloran (Mother’s family from Taliesin), aged 28. Sergeant, Northumberland Fusiliers

Cyril Thomas Morris Davies of Llanllwchaiarn, aged 31. Captain, Royal Warwickshire Regiment.

3 Gorffennaf/July

John Henry Howell of Lampeter, aged 22. Sub-Lieutenant, Royal Naval Reserve.

4 Gorrffennaf/July

David William Jenkins (residing at Llanbadarn prior to the war), aged 20. Private, Royal Welch Fusiliers

5 Gorffennaf/July

Oswald Robert John Green of Aberystwyth, aged 35. Lieutenant, Welsh Regiment

Dan Henry Davies of Llanwenog, aged 23. Private, King’s Liverpool Regiment.

 

Gadewch ateb / Leave a reply