Wythnos/Week 106: 11-17 Awst/August 1916

[English below]

Gwelir lluniau o filwyr eto fyth yn y wasg, a llawer ohonynt erbyn hyn wedi’u hanafu neu’u lladd. Yn un o’r lluniau mae’r Capten David Jones o Wern Isaf, Llanddewi Brefi, a anfarwolir mewn soned o waith D. Lloyd–Jenkins, Yn Amser Rhyfel.

Yn Llangwyryfon cynhelir gwasanaethau yn Eglwys y Plwyf i nodi dwy flynedd ers dechrau’r rhyfel, ac yn Swyddffynnon mae Rees David Jones wedi dychwelyd adref i Frynissa. Hefyd, derbynnir llythyr oddi wrth Griffith Morgan, a anafwyd ar Orffennaf 25 ar faes y gad yng Nghoed Mametz.

Mae gwaith mawr i dorri coed yn Ysbyty Ystwyth, ac mae cynlluniau ar y gweill i gael pedwar ugain o fechgyn ysgol i gymryd rhan.

Cyhoeddir rhestr arall o fechgyn lleol a laddwyd yn y rhyfel yn y Cambrian News, a chawn glywed am Mrs Florence Loxdale o Lanilar, sy’n brysur yn llythyru â hyd at 23 o fechgyn, yn anfon pecynnau atynt ac yn prynu pethau fel rhwymau iddynt. Cyn y daw’r cyfweliad i ben mae’n sôn am yr angen dybryd i ddiwygio’r gwasanaeth post fel y gellid anfon pecynnau i ysbytai yn ddi-dâl.

Photographs of soldiers continue to appear in the press, an increasing number recorded as wounded or killed. One such photograph is that of Captain David Jones of Wern Isaf, Llanddewi Brefi to whom D. Lloyd –Jenkins composes a sonnet Yn Amser Rhyfel (‘In Times of War’).

In Llangwyryfon services are held at the Parish Church on the second anniversary of the outbreak of the war, whilst in Swyddffynnon Rees David Jones is at home at Brynissa and a letter is received from Griffith Morgan who fell wounded on July 25th in Mametz Wood.

Timber felling in Ysbytty Ystwyth and preparations are underway to receive eighty schoolboys to cut part of the timber.

Another list of local war casualties is published in the Cambrian News whilst Mrs Florence Loxdale, Llanilar busily corresponds with as many as 23 ‘boys’, sending parcels and buying such things as puttees. On concluding her interview she refers to the urgent need of postal reform which would allow parcels being sent to hospitals to be post free.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion/Losses

16 Awst/August 1916

James Thomas of Llandysul, aged 40. Private, East Surrey Regiment

Advertisements

Gadewch ateb / Leave a reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s