Wythnos/Week 113: 29Medi/Sept-5Hydref/October 1916

[English below]
Cofnodwyd pedwar o golledigion yr wythnos yma a cheir adroddiadau am y rhai a gollwyd yn y papurau lleol.

Mae teulu a ffrindiau yr Is-gapten Henry Loyn Pugh o Aberaeron mewn galar ar ôl clywed ei fod wedi marw o’i anafiadau ar yr 11eg o Fedi. Dyma’r milwr cyntaf o Aberaeron i syrthio ar faes y gâd.

Fel cofnodwyd mewn adroddiadau yr wythnos ddiwethaf, mae teulu Bronwydd yn disgwyl yn bryderus i glywed am dynged Capten Kemes Lloyd. Nid ydynt wedi derbyn cadarnhad swyddogol eto am ddatganiad a wnaed gan ei gydswyddog yn honni ei fod wedi ei ladd ar faes y gad.

Yn Llanfyrnach mae rhieni’r Arloeswr Tommy Thomas yn derbyn y newyddion trist fod eu mab wedi marw o’i anafiadau, gan y nyrs a fu’n gofalu amdano.

Mae Mrs Phillips, Llwynderi-bach yn derbyn llythyr yn dweud wrthi fod ei mab, Preifat Harry Phillips wedi ei ladd tra ar ddyletswydd ar y ffrynt.

Mae Corporal D.A. Evans, Penrhiwpal wedi derbyn Y Fedal Filwrol.

Aberporth: dim ond yr ieuengaf o’i phedwar mab oedd ar gael i fynychu angladd Mrs Ellen Davies, Mount Pleasant. (O ran y tri mab arall, mae un yn garcharor yn yr Almaen, yr ail ar y Ffrynt a’r trydydd yn gwasanaethu ar long fasnach).

Ceir rhagor o newyddion am y rhai hynny sydd wedi ei hanafu yn ‘Local Casualties’.

Llanon: mae Preifat Tom David Evans a Phreifat Walter R. Hicks wedi cyrraedd adre’ ar seibiant, ond mae Preifat Johnnie Davies wedi ei rhyddhau o’r fyddin ar sail iechyd.

Derbyniodd Sarsiant W. H. Prior o Aberystwyth gomisiwn fel is-gapten tra bod newyddion o’r milwyr sydd adre’ ar seibiant ar gael o dan golofnau Cei Newydd, Borth, Cwrtnewydd, Penuwch a Felinfach.

Newyddion am y brwydro: Yn ol yr adroddiad ‘Yn Amser Rhyfel,’ brwydr y Somme yw’r frwydr mwyaf gwaedlyd mewn hanes.

Ysgrifenna W.A.P. yn Yr Ystwythian (cyf. ADX/1512/1) am ei argraffiadau o Salonika. Yn ol W.A.P. mae’r rhai sydd yn gwasanaethu ym mhryniau Macedonia yn edrych ymlaen yn eiddgar i dreulio diwrnod yn Salonika a chael seibiant o’u dyletswyddau yn y bryniau diarffordd.

Yn olaf, daw cyfnod “Amser Haf” i ben ganol nos, Nos Sadwrn.

Four casualties are recorded this week and reports of those lost may be read in the local newspapers.

Family, friends and acquaintances in Aberaeron mourn the loss of Lieutenant Henry Loyn Pugh who died of his wounds on the 11th of September. He is Aberaeron’s first soldier to fall.

The Bronwydd family, as reported last week, anxiously await to hear of the fate of Captain Kemes Lloyd as no official announcement has been made to confirm a brother officer’s statement that he has been killed in action.

The parents of Pioneer Tommy Thomas of Llanfyrnach are informed that their son has died of his wounds by the nurse who attended him.

Mrs Phillips, Llwynderi-bach receives a letter from her son’s officer informing her that Private Harry Phillips was killed whilst on sentry duty at the front line.

Corporal D.A. Evans, Penrhiwpal is awarded the Military medal.

Aberporth, and only the younger of four sons is able to attend the funeral of Mrs Ellen Davies, Mount Pleasant. (Of the other 3 sons, one is a prisoner of war in Germany, the second is in the front line and the third is serving in a merchant ship).

‘Local Casualties’ relays further news of those wounded in action.

Llanon: Private Tom David Evans is on leave, as is Private Walter R Hicks. Private Johnnie Davies, however, has been discharged from the army owing to medical unfitness.

Aberystwyth Sergeant W.H. Prior has been given a commission as lieutenant whilst news of soldiers on leave can be found under the New Quay, Borth, Cwrtnewydd, Penuwch and Felinfach columns.

News of the fighting: according to the report ‘Yn Amser Rhyfel’ there has never in history been bloodier fighting than that which is taking place on the Somme.

W.A.P. writes in the Michaelmas edition of The Ystwythian (ref. ADX/1512/1) of his impressions of Salonika. According to W.A.P. troops serving in the Macedonian hills eagerly anticipate the opportunity of spending a day in Salonika as respite from their duties in the secluded hills.

Finally, “Summer Time” ceases at midnight on Saturday.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

Colledigion/Losses

2 Hydref/October 1916

Charles James of Pontrhydfendigaid, aged 22. Private, London Regiment

Enos Jones of Glynarthen, aged 22. Gunner, Royal Field Artillery

3 Hydref/October 1916

William John Davies of Bow Street, aged 34. Private, South Wales Borderers

John Davies of Llanddewi Brefi, aged 24. Private, Welsh Regiment

 

Advertisements

Gadewch ateb / Leave a reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s