Wythnos/week 206: 12-18 Gorffennaf/July 1918

[English below]

 Cyhoeddir lluniau o’r diweddar Breifat David Davies o Lan-non, y Rhingyll S.G. Schwartz, nai Mr Schwartz, Smithfield-Road, Aberystwyth a hefyd o’r tri brawd Pateman o Lanbadarn. Mae’r Preifat John Davies o Landysul gartref wedi cael ei ddadfyddino ac mae’r Corporal William Jones wedi cael triniaeth hir yn yr ysbyty. Mae dau adroddiad am y clwyfedig yn ‘Aberystwyth’: y Preifat J. D. Theophilus sydd mewn gorsaf glirio yn Ffrainc a’r Lefftenant John J. Evans a anafwyd yn Ffrainc ar 12 Gorffennaf.

Mae tua 70 o filwyr a staff clwyfedig wedi cael pleserdaith i Byllau Teifi trwy garedigrwydd y Foneddiges Pryse.

Mae’r Preifat Llewelyn Morgan o Bontarfynach wedi bod gartref ar seibiant am 4 wythnos ac mae Mr Sidney Richards of Ystumtuen wedi ymuno â’r fyddin yn ddiweddar.

Mae’r Capten Gwilym James yn sôn am y ffliw eto. Ar Sadwrn 13eg caiff ei ddeffro am 1.15 am gan gyrch awyr. Yn ystod y dydd mae’n ymweld â Poulainville lle mae’n brechu rhai o’r dynion. Nifer isel a ddychwelodd o Draeth Paris ar Sul 14eg.

Mae Mrs Elizabeth Davies Jenkins, brodor o Aberteifi wedi’i gwobrwyo am ei gwaith yn ninas Caerdydd ac mae Miss Margaret Richards, recriwt cyntaf Ceredigion ym Myddin y Tir, bellach yn hyfforddwraig yn Fferm y Coleg, Aberystwyth. Yn y cyfamser cynhelir cyfarfod o Fyddin Tir y Merched yn Aberteifi a fynychwyd gan nifer. Mae Miss Margaret Richards a enwyd uchod yn bresennol i gefnogi’r Fonesig Jenkins. Yn ei haraith, mae Mrs Cotwil, trefnydd y Sir yn cyfeirio at iechyd da Margaret Richards gan ddweud ei fod o ganlyniad i’w gwaith ar ffermydd Ceredigion.

Mae Sarah Ann Evans o Fferm Coybal, Ceinewydd yn gwneud cais i gael ei chofrestru fel etholwraig Seneddol ar gyfer Etholaeth Ceredigion.

Cenir caneuon gwerin Ffrangeg a Chymraeg gan blant ysgol yn Aberystwyth mewn cyfarfod gorlawn yn y Coliseum ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ffrainc, ac mae’r Maer yn anfon neges yn enw’r trigolion i Arlywydd Gweriniaeth Ffrainc.

Dogni,- daeth y cynllun newydd i rym ar 15 Gorffennaf ac mae’n cynnwys dogni siwgr, lard, menyn, margarîn, te, bacwn a chig.

Erbyn hyn mae’n ofynnol i berchnogion cerbydau ffordd sy’n cario nwyddau ddarparu manylion eu cerbydau ar ffurflenni y gellir eu cael yn yr Orsaf Heddlu.

Mae ‘Dymuniad Heddwch’ yn gerdd a ysgrifennwyd gan W.G. Evans yn mynegi dymuniad am heddwch i ddychwelyd i reoli dros y byd tra bod Aronfa yn ôl pob golwg yn ysgrifennu o ‘rywle yn Ffrainc’,- ac yn dweud ei fod wedi dod i sylweddoli 3 pheth ar fynd i Ffrainc y tro hwn,-

  1. Mae pris ffrwythau yn ormodol gartref
  2. Mae’r Almaenwyr yn fwy gweithgar nag erioed yn yr awyr
  3. Mae ysbryd y Ffrancwyr mor fywiog ag erioed.

Gosodir hysbyseb arall ynglŷn â Bondiau Rhyfel Cenedlaethol ac anogir pobl Aberaeron i roi eu harian i’r wlad – gwobr y llwyddiant fydd ‘Awyren i Aberaeron’ – tra bod Aberystwyth wedi rhyfeddu’r Deyrnas ynglŷn â’r cyfanswm o £682,448 a godwyd yn ystod Wythnos y Tanc.

Digwyddiadau hapus yn Swindon a De Dyfnaint,- Y Lefftenant Martin Jones o Feulah yn priodi Miss Winnie Martha Evans o Swindon ac mae Miss Olive Lettice Jones o Aberteifi yn priodi’r Capten Oliver Stanley Webb o Dde Dyfnaint.

Photographs appear of the late Private David Davies of Llanon, Sergeant S.G. Schwartz, nephew of Mr Schwartz, Smithfield-Road, Aberystwyth and also of the three Pateman brothers of Llanbadarn. Private John Davies of Llandysul is home discharged and Corporal William Jones has undergone lengthy treatment in hospital. There are two reports of the wounded in ‘Aberystwyth’: Private J. D. Theophilus who is in a clearing station in France and Lieutenant John J. Evans who was wounded in France on July 12th.

Around 70 wounded soldiers and staff have been treated to an outing to Teify Pools through the kindness of Lady Pryse.

Private Llewelyn Morgan of Devil’s Bridge has been home on furlough for 4 weeks and Mr Sidney Richards of Ystumtuen has recently joined the army.

Captain Gwilym James mentions the influenza epidemic again. On Saturday 13th he is woken at 1.15 am by an air-raid. During the day he visits Poulainville where he inoculates some of the men. Low returns from Paris Plage on Sunday 14th.

Mrs Elizabeth Davies Jenkins, a native of Cardigan is decorated for her work in the city of Cardiff and Miss Margaret Richards, the first Cardiganshire recruit for the Land Army is now the instructress at the College Farm, Aberystwyth. Meanwhile a well-attended meeting of the Women’s Land Army is held in Cardigan. Aforementioned Miss Margaret Richards is present in support of Lady Jenkins. In her speech, Mrs Cotwil, the County organiser refers to Margaret Richards’ healthiness being as a result of her work on Cardiganshire farms.

Sarah Ann Evans of Coybal Farm, New Quay makes a claim to be registered as a Parliamentary elector for the Constituency of Cardiganshire.

French and Welsh folksongs are sung by schoolchildren in Aberystwyth at a crowded meeting at the Coliseum on French National Day, and the Mayor sends a message in the name of the inhabitants to the President of the French Republic.

Rationing: the new scheme came into force on July 15th and involves the rationing of sugar, lard, butter, margarine, tea, bacon and meat.

Owners of goods-carrying road vehicles are now required to furnish the particulars of their vehicles on forms obtainable at the Police Station.

‘Dymuniad Heddwch’ (Wish for Peace) is a poem written by W.G. Evans expressing the wish for peace to return to rule over the world whilst Aronfa apparently writes from somewhere in France – ‘Rhywle yn Ffrainc’ – and states that he has come to realise 3 things on entering France this time:

  1.  Fruit is overpriced at home
  2. The Germans are more active than ever in the air
  3. The French spirit is as lively as ever.

Another advert is placed regarding National War Bonds and the people of Aberayron are urged to lend their money to the country – the prize of success will be ‘Aberayron’s Own Aeroplane’ – whilst Aberystwyth has amazed the Kingdom regarding the grand total of £682,448 raised during Tank Week.

Happy events in Swindon and South Devon: Lieutenant Martin Jones of Beulah marries Miss Winnie Martha Evans of Swindon and Miss Olive Lettice Jones of Cardigan marries Captain Oliver Stanley Webb of South Devon.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion/Losses

 12 Gorffennaf / July 1918

 William Robert Lloyd of Aberystwyth, aged 24. Second Lieutenant, Royal Welch Fusiliers

Gadewch ateb / Leave a reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s