Wythnos/week 143: 27Ebrill/April-3 Mai/May 1917

[English below]

Mae yna bump colled wedi eu cofnodi yr wythnos yma ac fe gyhoeddwyd y darn Requiescat in Pace, a gyfansoddwyd gan Preifat David Bateman er cof am George Richards o Kelvin, Aberteifi yn y Cardigan and Tivyside. Cyfeirir eto at George Richards yn yr adroddiad ‘With the Welsh at Gaza’ gan ddatgan na fedrodd Signalwr Hy Bevan ei gario mewn cyn ei farw. Ceir adroddiad fod Preifat Fred Davies a Preifat Manny Davies, y ddau o Aberteifi wedi eu hanafu.

Ysgrifenna Sarsiant Ladd o ysbyty yn Cairo ar ôl cael ei anafu yn ei fraich. Mae’n rhoi sicrwydd i’w fam y bydd yn well mewn mis neu ddau.

Ysgrifenna Griff i’w frawd J. Islan Jones, o Durban. Mwy na thebyg bydd Griff yn aros yno am rhyw bedair i bump wythnos. Mae’n disgrifio ei daith o Sierra Leone i Cape Town. Ar ôl ei gyfnod yn Durban fe fydd yn hwylio i India, taith o rhyw bythefnos i dair wythnos.

Adre’ mae’r tri ffoadur o wlad Belg sydd wedi bod yn mynychu yr Ysgol Genedlaethol yn Nhregaron yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ wedi gadael am Lundain. Yn Aberystwyth mae enwau’r rhai sydd wedi bod yn llwyddianus yn arholiadau Cymorth Cyntaf i’w gweld ar Ffurflen E (10) Cymdeithas y Groes Goch Prydeinig.

There are 5 recorded Cardiganshire losses this week and the poem Requiescat in Pace composed by Private David Bateman to the memory of George Richards of Kelvin, Cardigan is published in the Cardigan and Tivyside. George Richards is again mentioned in the report ‘With the Welsh at Gaza’ in that Signaller Hy. Bevan was not able to bring him in before he died. Private Fred Davies and Private Manny Davies also of Cardigan are reported to have been wounded.

Sergeant Ladd writes from a hospital in Cairo having been wounded in the arm but reassures his mother that he will be all right in a month or two.

Griff writes to his brother J. Islan Jones from Durban. He will probably stay there for four to five weeks. He describes his journey from Sierra Leone to Cape Town. After his stay in Durban he will sail to India which will take a fortnight to three weeks.

At home the three Belgian refugee children who have attended the Tregaron National School for the last 2 years have left for London, whilst in Aberystywth the names of those who have passed their First Aid examinations may be seen on the British Red Cross Society’s FormE (10).

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

Colledigion/Losses

28 Ebrill/April 1917

John Thomas of Aberporth, aged 26. Private, York and Lancaster Regiment

30 Ebrill/April 1917

David Davies of Pennant, Aberarth, aged 30. Private, Royal Welch Fusiliers

1 May/May 1917

John Humphrey Edwards of Aberystwyth, aged 26. Private, Royal Welch Fusiliers

Rhys Beynon Davies of Aberbanc and Llandysul, aged 20. Second Lieutenant, Flying Corps

2 Mai/May 1917

David George Davies of Henllan, aged 21. Stoker, 1st Class, Royal Navy

Wythnos/week 10: 6-12 Hydref/October 1914

Cyhoedda’r Brenin orchymyn ynglŷn ag estroniaid.  Mae Maer Aberteifi’n gadael am faes y gad.  Mae Canada’n anfon blawd i’r Famwlad.  Dros y ffin yng Nghilgerran, mae Cymdeithas y Groes Goch wrth fel lladd nadredd o dan lywyddiaeth Mrs Colby, Ffynone.

Order by the king regarding aliens issued.  The mayor of Cardigan leaves for the front.  Canada contributes flour to the Motherland.  Over the border in Cilgerran, the work of the Red Cross Society is in full swing, under the presidency of Mrs Colby, Ffynone.

 

Wythnos/week 9: 29 Medi/September – 5 Hydref/October 1914

Trawyd tair Criwser Brydeinig â thorpido ar Fôr y Gogledd – Aboukir, Hogue a Cressy.  Mae Maer Aberteifi, Mr R.W. Picton Evans, yn mynd i ffwrdd i’r rhyfel.  Mae cymdeithas leol y Groes Goch yn dal ati gyda’i hymdrechion a Blanche Jones-Parry, Tŷ Llwyd, Beulah yn gofyn am gymorth i’r ffoaduriaid o Wlad Belg.

Three British Cruisers have been torpedoed in the North Sea – the Aboukir, Hogue and Cressy.  Cardigan Mayor, Mr R.W. Picton Evans, is off to war.  The local Red Cross Society is still continuing its endeavours for the war effort and Blanche Jones-Parry, Ty Llwyd, Beulah is asking for assistance for the Belgian refugees.