Wythnos/week 181: 18-24 Ionawr/January 1918

[English below]

Yn y ‘Roll of Honour’ yn y Tivyside yr wythnos hon ceir sôn am y Cloddiwr John Maurice Davies a fu farw yn Dar es Salaam, ac un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, yr Is-gapten R.S. Roper, sydd wedi’i ladd. Mae enw Dar es Salaam yn nwyrain Affrica yn codi eto yn y papurau newydd – y tro hwn mewn adroddiad am y Preifat Idwal Jones o Lanbedr Pont Steffan, sy’n ddifrifol wael.

Ym Mhenyparc gofynnir i aelodau’r Eglwys ac unrhyw un arall trugarog i roi arian er lles milwyr clwyfedig.

Mae’r Cambrian News yn cyhoeddi lluniau o’r gwŷr sydd wrthi ar faes y gad, gan gynnwys Corporal T.J. Keane, sydd wedi’i enwi yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.  Gwelwn lun hefyd o ‘Monty a Carlo’. Mae’r ddau gymeriad hwn yn adnabyddus yn Ysbyty’r Groes Goch am eu perfformiadau doniol, ac mae pawb yn gresynu mai eu perfformiad diwethaf fyddai’r un olaf.

Cynhelir cyflwyniadau ar hyd a lled y sir i anrhydeddu milwyr sydd adref ar seibiant, ac yn Aberteifi mae Corfforaeth Aberteifi’n ystyried rhoi Rhyddid y Fwrdeistref i’r dewrion hynny a enillodd glod am eu gweithredoedd ar faes y gad ac ar y môr.

Mae hanes Dr Davies a’i wasanaeth i drigolion ardal Tregaron yn rhygnu ymlaen o hyd (gweler wythnosau 176 a 178). Erbyn hyn mae’r Pwyllgor Rhyfel Lleol wedi addo bodloni anghenion meddygol yr ardal.

Yn olaf, yn Ysgol Ponterwyd mae Mary Janetta Jones yn cael 14/20 am ‘Imaginary Dialogue between King George and the Kaiser’.

This week the Roll of Honour in the Cardigan and Tivyside refers to Sapper John Maurice Davies who has passed away at Dar es Salaam, and another old pupil of Llandyssul County School, Lieutenant R.S. Roper who has been killed. Dar es Salaam in East Africa is again mentioned in the newspapers- this time in the report that Private Idwal Jones of Lampeter is seriously ill.

In Penpark church members and any other sympathetic persons are to be asked to make subscriptions towards the welfare of injured soldiers.

The Cambrian News publishes photographs of men who are involved in the war effort including that of Corporal T.J. Keane whose name appears in the New Year’s Honours list.  A photograph of ‘Monty and Carlo’ also appears. The two are famous in the Red Cross Hospital for their humorous performances and everyone regrets that their recent appearance was to be their farewell performance.

Presentations have been made across the county to those who are home on leave and in Cardigan, the Corporation of Cardigan is considering conferring the Freedom of the Borough in appreciation of the valour of those who have won distinctions on the field or on the sea.

The issues surrounding the services of Dr Davies of the district of Tregaron and his enlistment are again mentioned (see weeks 176 and 178). The Local War Committee has promised to meet the medical requirements of the district.

Lastly, in Ponterwyd School Mary Janetta Jones receives 14/20 for her ‘Imaginary Dialogue between King George and the Kaiser’.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion/Losses

18 Ionawr/January 1918

John Thomas of Penrhiwllan, aged 19. Private, Training Reserve

23 Ionawr/January 1918

Daniel Robert Griffiths of Llanrhystud. Private, Welsh Regiment

Daniel Edwin Morgans of Aberaeron, aged 19. Ordinary Seaman, Mercantile Marine

24 Ionawr/January 1918

Daniel Jones of Lampeter, aged 38. Private, Royal Army Service Corps