Wythnos / week 251: 23-29 Mai/May 1919

[English below]

‘In Memoriam’ – mae’r diweddar Lefftenant Sim J. Jones o Lynarthen yn cael ei gofio gan ei rieni a’i chwaer, ac mae’r diweddar Breifat W.O. Thomas o Rydlewis wedi mynd, ond nid yw wedi ei anghofio gan ei wraig gariadus.

Mae enw’r Cadfridog Lewis Pugh Evans o Lovesgrove, Aberystwyth yn ymddangos yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Brenin i gydnabod ei wasanaethau yn Ffrainc a Fflandrys fel y mae enw’r Lefftenant-Cyrnol Delme William Campbell, mab Arglwydd Raglaw Sir Aberteifi. Y rhai eraill a enwir yw’r Corporaliaid G. Taylor a D.I.P. Jones o Lanbedr Pont Steffan, y Rhingyll T. Evans, hefyd o Lanbedr Pont Steffan, a’r Staff-Ringyll J.J. Lewis, yr Uwchgapten G. Fossett Roberts a’r Rhingyll Peake o Aberystwyth.

Yn Henllan mae Mr E.R. Griffiths yn rhoi anerchiad diddorol yng nghangen leol Ffederasiwn y Morwyr, Milwyr ac Awyrenwyr a Ryddhawyd. Cofrestrwyd nifer o aelodau newydd.

Deellir bellach bod y Swyddfa Ryfel yn llunio manylion cynllun i ryddhau dynion yn ôl hyd eu gwasanaeth.

Mae David Hughes, y Mecanydd Awyr, wedi cael ei ryddhau ac wedi dychwelyd adref i’r Borth.

Mae cyfarfod cymdeithasol i groesawu bechgyn yr eglwys yn ôl o’r rhyfel yn cael ei gynnal yn Ysgoldy Shiloh, Aberystwyth. Yn anffodus, yr unig deyrnged y gellir ei rhoi i’r rhai a gollwyd yn y rhyfel yw cofeb.

Mae llawer mwy yn mynychu’r cyfarfod cyhoeddus a ohiriwyd i ystyried cofgolofn rhyfel Aberystwyth na’r cyfarfod blaenorol. Dywedodd y Cadeirydd nac anghofir am y dynion hynny oedd wedi gadael ac wedi ymuno yn wirfoddol a dylid cofio gwaith mawr y menywod.

Mae adroddiadau’n parhau ynghylch llofruddiaeth Cribyn. Am y pedwerydd tro caiff James a William Joseph Evans eu dwyn i fyny tra yn y ddalfa a’u cyhuddo o lofruddio eu mam a’u brawd Sam.

‘In Memoriam’ – the late Lieutenant Sim J. Jones of Glynarthen is ever and fondly remembered by his parents and sister whilst the late Private W.O. Thomas of Rhydlewis  is gone but not forgotten by his loving wife.

The name of General Lewis Pugh Evans of Lovesgrove, Aberystwyth appears in the King’s birthday honours list in recognition of services in France and Flanders as does the name of Lieutenant-Col Delme William Campbell, son of the Lord Lieutenant of Cardiganshire. Others named are Corporals G. Taylor and D.I.P. Jones of Lampeter, Sergeant T. Evans, also of Lampeter, and Staff-Sergeant J.J. Lewis, Major G. Fossett Roberts and Sergeant Peake of Aberystwyth.

At Henllan Mr E.R. Griffiths delivers an interesting address at the local branch of the Discharged and Demobilised Sailors, Soldiers and Airmen’s Federation. A number of new members were enrolled.

It is now understood that the War Office is formulating details of a scheme to release men according to the length of their service.

Air Mechanic David Hughes has been demobilised and has returned home to Borth.

A welcome social to the boys of the church back from the war is held in the Shiloh Schoolroom, Aberystwyth. Sadly the only tribute which can be given to those lost in the war is that of a memorial.

The adjourned public meeting to consider the Aberystwyth war memorial has a much better attendance than that of the previous meeting. The Chairman said that those men who had left and joined voluntarily were not to be forgotten and that the great work of the women should be born in mind.

Reports continue regarding the Cribyn murder. For the fourth time James and William Joseph Evans are brought up in custody and charged with the murder of their mother and brother Sam.

Cliciwch ar y lluniau i’w gwneud yn fwy/ Click on images to enlarge.

 

Wythnos/week 214: 6-12 Medi/September 1918

[English below]

Mae newyddion trist wedi cyrraedd Aberteifi (ymhlith llawer o leoedd eraill) fod yr Uwchgapten Picton Evans wedi marw mewn ysbyty Dwyreiniol. Cyhoeddir llun o’r Preifat Jenk Evans o Dal-y-bont a fu farw o’i glwyfau. Private Tom Ewart Richards of New Quay has also died of his wounds. Mae’r Preifat Tom Ewart Richards o Geinewydd hefyd wedi marw o’i glwyfau. Mae nifer o ddynion Llanbadarn wedi cael eu hanafu a lladdwyd y Lefftenant John Lewis Lloyd ar faes y gad yn Ffrainc. Mae’r Is-lefftenant R. H. Davies o Aberystwyth hefyd wedi cael ei ladd ar faes y gad.

Mae ‘Roll of Honour’ yn cynnwys mwy o newyddion am y rhai sy’n garcharorion rhyfel, y rhai sydd wedi cael eu lladd and the wounded.a’r anafedig.

Mae Mr a Mrs Jones, Fferm Ochr o Dregaron, wedi derbyn y newyddion trist am farwolaeth eu mab, y Cadét Hedfan W.R. Jones, a fu farw o ganlyniad i ddamwain awyren. Gellir gweld y Cadét W.R. Jones yn y llun (canol y rhes ganol, gyda mwstas) sydd o dan y telegraff a anfonwyd gan y Weinyddiaeth Awyr i deulu Jones ar 16 Medi (mae’r eitemau hyn yn rhan o’r Casgliad ADX/ 1649 yn Archifdy Ceredigion).

Mae’r Is-lefftenant D J Davies o Aberystwyth wedi ennill y Groes Filwrol am “ddewrder amlwg ac ymlyniad wrth ei ddyletswydd”, ac mae’r Lefftenant-Cyrnol Lewis Pugh Evans o Lovesgrove wedi derbyn bar i’w D.S.O.

Mae’r morwr dewr, Mr Penry Evans o Drewen unwaith eto wedi dychwelyd i’r môr, ar ôl cael ei dorpidio dair gwaith ac mae morwyr yr s.s. Dungeness wedi cael swm o arian am eu dewrder ar achlysur taro stemar â thorpido ar Fai 30 ddiwethaf. Fodd bynnag, roedd Mr Richard Hughes o’r Borth ar fwrdd llong a gafodd ei tharo â thorpido, ond goroesodd y criw.

Mae Mr E.R. Evans o Bow Street wedi derbyn cerdyn post gan ei fab yn yr Almaen.

Mae Anelwr Bomiau Blaenpennal G. L. R. Davies wedi cael llawdriniaeth tryffin ar ôl cael ei anafu yn y pen ac, yn ôl y Capten Gwilym James, mae wedi cael llawdriniaeth arall.

Mae ‘Hysbysiad o Benderfyniad’ wedi ei roi gan y tribiwnlys lleol ar gyfer Bwrdeistref Aberystwyth gan fod achos Thomas Edward Owen wedi’i ohirio.

Yn ôl ‘Tro’r Unol Daleithiau’, mae byddin yr Unol Daleithiau, am y tro cyntaf yn hanes y rhyfel, wedi cychwyn ymgyrch ar ei phen ei hun a brofodd yn gwbl lwyddiannus.

 

Sad news has reached Cardigan (amongst many other places) that Major Picton Evans has died in an Eastern hospital. A photograph appears of nineteen year old  Private Jenk Evans of Talybont who died of his wounds. Private Tom Ewart Richards of New Quay has also died of his wounds. Many Llanbadarn men have been wounded and Lieutenant John Lewis Lloyd has been killed in action in France. Second-Lieutenant R. H. Davies of Aberystwyth has also been killed in action.

The ‘Roll of Honour’ carries more news of those who are prisoners of war, those who have been killed  and the wounded.

Mr and Mrs Jones, Ochr Farm of Tregaron have received the sad news of the death of their son, Flight Cadet W.R. Jones, who died as a result of an aeroplane accident. Cadet W.R. Jones can be seen in the photograph (centre of middle row, with moustache) which is beneath the telegraph sent by the Air Ministry to the Jones family on the 16th September (these items are part of the ADX/ 1649 collection at Ceredigion Archives).

Second-Lieutenant D J Davies of Aberystwyth has won the Military Cross for ‘’conspicuous gallantry and devotion to duty’’, and Lieutenant-Colonel Lewis Pugh Evans of Lovesgrove has received a bar to his D.S.O.

Gallant sailor, Mr Penry Evans of Trewen has again returned to sea, after having been torpedoed three times and the  sailors of the s.s. Dungeness have been granted a sum of money  for their gallantry on the occasion of the torpedoing of a steamer on May 30th last. Mr Richard Hughes of Borth however was on board a ship which was torpedoed, but the crew survived.

Mr E.R. Evans of Bow street has received a postcard from his son in Germany.

Blaenpennal Bombardier G. L. R. Davies has undergone a trephine operation after being wounded in the head whilst, according to Captain Gwilym James, he has undergone another operation.

A ‘Notice of Decision’ has been given by the local tribunal for Aberystwyth Borough in that the case of Thomas Edward Owen has been adjourned.

According to ‘Tro’r Unol Daleithiau’ (The United States’ Turn), the United States’ army has, for the first time in the history of the war, begun a campaign on their own which proved to be completely successful.

 

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion /Losses

7 Medi/ September 1918

John Rees Jones of Horeb, aged 37. Private, Kings Shropshire Light Infantry

William Jones of Borth, aged 66. Second Mate. Mercantile Marine

9 Medi/September 1918

John Samuel Thomas of Maesllyn, aged 26. Private, Labour Corps

11 Medi/September 1918

David Edgar Evans of Aberystwyth, aged 32. Lieutenant, Welsh Regiment

Cecil Gwyn Sutton Jones of Neuadd Cross, aged 28. Flight Cadet, Royal Air Force

David Lloyd of Maesllyn, aged 25. Stoker 2nd Class, Royal Navy.

12 Medi/September 1918

Evan Owen Evans of Llangrannog, aged 18. Able Seaman, Mercantile Marine Reserve

Peter Roberts of Capel Bangor, aged 23. Driver, Royal Field Artillery

Wythnos/week 180: 11-17 Ionawr/January 1918

[English below]

Ceir mwy o wasanaethau coffa: un yn Llandysul er cof am y Preifat T. Thomas ac un arall yn Nhregaron er cof am y Preifat J. D. Jones. Mae’r Cambrian News yn cofnodi marwolaeth Corporal D. H. Doughton. Ef oedd ail fab y diweddar Mr David a Mrs Elizabeth Doughton, gynt o’r Porth Bach, Aberystwyth.

Bu’r Lefftenant-cyrnol Lewis Evans, V.C., D.S.O., o Aberystwyth ym Mhalas Buckingham i dderbyn ei ddwy fedal.

Mae tipyn o ddynion adref ar seibiant; Iarll Lisburne a’r Gyrrwr John Parry yn Llanafan, yr Is-gapten D. Lewis Jones yng Nghoed-y-bryn, y Preifatiaid Jones, Rowlands a Rees ym Mhontrhydfendigaid, a’r Preifat Carsey Evans yng Ngheinewydd.

Mae’r Capten o Dresaith, John Thomas, yn ennill medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei ddewrder a’i ymroddiad arbennig. Ymysg cyfres o weithredoedd gwrol, achubodd Capten Thomas eu stemar ar ôl i long danfor ymosod arni.

Caiff Mrs Morgan o Landysul newyddion da mewn llythyr oddi wrth ei gŵr yn ddyddiedig 6 Rhagfyr, sy’n dweud ei fod yn garcharor yn Yr Almaen (wythnos ar ôl i’r Swyddfa Ryfel ddweud wrthi y bu farw’r Preifat Daniel Thomas Morgan ar faes y gad ar 3 Rhagfyr).

Mae Mr Squils o Aberteifi wedi tynnu llun o griw o forwyr o Norwy. Gwroniaid Llangrannog a dynnodd gwch y criw i’r lan ar ôl iddynt ddianc o’u stemar a ddrylliwyd gan dorpido ddeunaw awr ynghynt.

Gwelwn lun arall, wedi’i dynnu gan Mr Lemuel Rees, sy’n dangos cantorion carolau yn Llambed sydd wedi casglu mwy na £60 er budd Sefydliad y Milwyr Dall.

Daw’r ‘Llith o Faes y Gad’ gan y Preifat D. Lloyd Davies sy’n gwasanaethu gydag Ambiwlans Sant Ioan, ac mae’n rhoi blas inni ar sut y dathlodd ef a’i uned Ddydd Nadolig. Roedd y swyddogion wedi ymuno â’r milwyr cyffredin am y diwrnod, a’r rhingylliaid a’r staff-ringylliaid oedd yn gweini’r bwyd. Buont yn bwyta tatws, twrci a chig moch, a phwdin Nadolig. Cafwyd areithiau a llwncdestunau, a chafodd pawb afalau, cnau, sigaréts a sigârs.  Ar ddiwedd y darn mae’r Preifat Davies yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Memorial services continue to be held: at Llandyssul in honour of Private T. Thomas and at Tregaron in honour of the late Private J. D. Jones. Corporal D. H. Doughton’s death is recorded in the Cambrian News.  The Corporal was the second son of the late Mr David and Mrs Elizabeth Doughton, formerly of Little Darkgate Street, Aberystwyth.

Meanwhile Lieut. Colonel Lewis Pugh Evans, V.C., D.S.O., of Aberystwyth has attended Buckingham Palace to receive his two decorations.

Many men are home on furlough: the Earl of Lisburne and Driver John Parry at Llanafan, Lieutenant D. Lewis Jones at Coedybryn, Privates Jones, Rowlands and Rees at Pontrhydfendigaid, Private Carsey Evans at New Quay.

Tresaith captain John Thomas receives the award of the British Empire Order for deeds of gallantry and great devotion. Captain Thomas saved, amongst other deeds,  his steamer from a submarine attack.

Glad tidings are received by Mrs Morgan of Llandyssul when she receives a letter, dated the 6th December,  from her husband who states that he is a prisoner in Germany. (During the previous week Mrs Morgan had been misinformed by the War Office that Private Daniel Thomas Morgan had fallen in action on the 3rd December.)

A photograph of a group of Norwegian sailors is taken by Mr Squils of Cardigan. The crew and their boat were pulled ashore by the brave men of Llangranog after their steamer had been torpedoed eighteen hours previously.

A photograph taken by Mr Lemuel Rees is of  Lampeter carol singers who have collected over £60 in aid of the funds of the Institution for Blind Soldiers.

‘Llith o Faes y Gad’ (A Lesson from the Battlefield) is by Private D. Lloyd Davies of St John’s Ambulance and gives a glimpse of his unit’s Christmas day celebrations. The officers had joined the ordinary soldiers and the sergeants and staff-sergeants were the waiters for the day. They dined on potatoes, turkey and pork followed by plum pudding. Speeches and toasts were made and everyone had apples, nuts, cigarettes and cigars.  At the end of his lesson, Private Davies wishes everyone a Happy New Year.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click on images to enlarge]

 

Colledigion / Losses

15 Ionawr/January 1918

Evan William Evans of Drefach, aged 33. Sergeant, Royal Garrison Artillery

16 Ionawr/January 1918 

David Hubert Evans of Aberystwyth, aged 30. Private, Welsh Regiment

Wythnos/week 176: 14-20 Rhagfyr/December 1917

[English below]

Yr wythnos hon mae’r Cardigan and Tivyside yn ymdrin ag amrywiaeth o bethau – y sôn ei bod yn debygol y caiff carcharorion rhyfel Almaenaidd eu rhyddhau i weithio ar ffermydd, y perygl o ryfel cartref yn Rwsia, ac wrth fwrw golwg ar y sefyllfa gartref, awgrymir mai anghydraddoldeb o ran dosbarthu bwyd sy’n golygu fod pobl yn gorfod aros mewn rhesi ar y strydoedd.

Yn y gerdd Nadolig Di-wledd erfynnir ar y rhai sydd ar ben eu digon i roi i bobl dlawd – hyd yn oed yng nghyfyngder y Rhyfel.

Cynhelir cyfarfod o Bwyllgor Bwrdeistref Aberystwyth, a phenderfynir y dylid aros tan ddiwedd y Rhyfel cyn cydnabod gwasanaeth clodwiw’r Is-gyrnol Lewis Pugh Evans, Gelli Angharad.

Mae Bwrdd Gwarcheidwaid Tregaron yn cwrdd eto, ac yn cytuno i wneud apêl arall i’r Pwyllgor Rhyfel fel y gall Dr David Davies barhau â’i waith presennol.

Cyfathrebu – mae’r Nadolig ar y gorwel a chaiff Nan a Margaret gerdyn post oddi wrth Gwil (Dr Gwilym James, y bu cryn sôn amdano yn yr wythnosau diwethaf) yn estyn cyfarchion R.C.E. IV a’r Staff, ac mae L. Terwyn Davies, Ysgrifennydd Anrhydeddus Sioe Farchnad Nadolig Llanbedr Pont Steffan, yn gofyn caniatâd i werthu tocynnau er mwyn codi arian at y Gronfa Leol er Milwyr a Morwyr.

This week the Cardigan and Tivyside comments on a variety of issues: ‘War Prisoners on Farms’ on the probable release of German prisoners of war for farming work; the prospect of civil war in Russia; and, at home, the inequality of food distribution being the root cause of street queues.

Nadolig Di-wledd (‘A non-celebratory Christmas’) is a poem which urges those who have plenty to give to the poor, even at this difficult time of War constrictions.

At a meeting of the Aberystwyth Borough Committee it is decided that recognition of Lt-Colonel Lewis Pugh Evans, Lovesgrove, great services is to be postponed until the end of the War.

Another meeting is held by the Tregaron Board of Guardians whereby further representation is to be made to the War Committee to allow Dr David Davies to remain in his present practice.

Communications: as Christmas approaches Nan and Margaret receive a postcard from Gwil (Dr Gwilym James as mentioned quite a few times in past weeks) expressing greetings from R.C.E. IV and Staff, and L. Terwyn Davies, the Honourable Secretary of the Lampeter Christmas Market Show, asks for permission to sell tickets in order to raise money for the local Soldiers and Sailors fund.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

 

Colledigion / Losses

 14 Rhagfyr / December 1917

Karl D. Anderson of Christiana, Norway. Buried in Llangrannog. Mercantile Marine

15 Rhagfyr / December 1917

Evan Philip Jones of Sarnau, aged 26. Second Mate, Mercantile Marine