Wythnos/week 134: 23 Chwefror/February-1 Mawrth/March 1917

[English below]

Wythnos 134 o’r Rhyfel a gwelir llun o’r Llongwr Abl John James yn y Cardigan and Tivyside. Fel y crybwyllwyd yn wythnos 131, bu farw John James pan suddwyd yr HMS Laurentic.

Yn anffodus bu farw Preifat Evan Davies o dwymyn y coluddion, y cyntaf o ardal Penmorfa i golli ei fywyd yn y Rhyfel Mawr tra anafwyd David Dan Rees o Goedybryn yn Ffrainc ac y mae Preifat Tom Lewis o Rydlewis mewn ysbyty yn Ffrainc yn dioddef o effaith ewinrhew.

Dethlir Dydd Gŵyl Ddewi yn ysgolion ar hyd y Sir. Mae Mrs Alice Louisa Gibby, Prifathrawes Ysgol Penuwch, yn cofnodi rhaglen y dydd yn y llyfr log – y rhan fwyaf o’r eitemau yn y Gymraeg gydag ambell gân megis It’s a Long Way to Tipperary a Keep the Home Fires Burning yn Saesneg. Cyflwynir Rhestr Anrhydedd o gyn-ddisgyblion i’r ysgol gan Mr a Mrs D. Davies, Y Glyn, ac ar ddiwedd yr achlysur mae pawb yn gorymdeithio heibio Jac yr Undeb gan roi saliwt.

Perfformiwyd rhaglen helaeth arall yn Adran y Bechgyn, Ysgol y Cyngor Heol Alexandra. Eleni anrhydeddwyd naw cyn-ddisgybl ac athro sydd wedi colli eu bywydau. Yna cyflwynodd y Prifathro, Mr D J Saer, adroddiad ar sut mae’r bechgyn wedi chwarae eu rhan i helpu eu gwlad. Gosodir cofeb dros dro i anrhydeddu’r arwyr syrthiedig gyda’r bwriad o osod cofeb barhaol yn y flwyddyn sydd i ddod.

Yn olaf diddorol yw darllen yn y Cardigan and Tivyside fod merched wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth aredig ym Mhontarddulais.

Week 134 of the war, and a photograph appears in the Cardigan and Tivyside of AB John James. As was mentioned in week 131,  AB John James lost his life in the sinking of the H.M.S. Laurentic.

Sadly, Private Evan Davies has died of enteric fever; he is the first from the Penmorfa district to die in the Great War, whilst David Dan Rees of Coedybryn has been wounded in France, and Private Tom Bowen of Rhydlewis is in hospital in France suffering from the effects of frostbite.

St David’s Day is celebrated in schools across the County. The Headmistress of Penuwch school, Mrs Alice Louisa Gibby, records the programme for the day in the log book, most of the items being in Welsh although a few songs such as It’s a long way to Tipperary and Keep the home fires burning are sung in English. Mr and Mrs D. Davies, Y Glyn, present the school with a Roll of Honour of old pupils. At the end of the event all march past and salute the Union Jack.

Another extensive programme is performed at the Boys Dept. of the Alexandra Road Council School. This year nine past pupils and a teacher who have lost their lives are honoured. The Headmaster, Mr D J Saer, then continues to present a report on how the boys of the school have helped their country. A temporary memorial is put up in honour of fallen heroes with the intention of constructing a more permanent memorial during the coming year.

Unfortunately, on the very same day David Davies of Glanrafon Farm, Tregaron is killed when his ship, the HMS Pheasant, is struck by a mine off Orkney.

Finally, it is interesting to note that the Cardigan and Tivyside reports that women have competed in a ploughing match in Pontarddulais.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge

 

Colledigion/Losses

25 Chwefror/February 1917

Alexander Rees Davies of Llanfarian, aged 34. Private, Royal Welch Fusiliers

27 Chwefror/February 1917

David Roderick Thomas of Lampeter, aged 21. Private, Royal Army Service Corps

28 Chwefror/February 1917

David Jacob Lewis of Talgarreg, aged 22. Second Lieutenant, Royal Fusiliers

1 Mawrth/March 1917

David Davies of Tregaron, aged 28. Signalman, Wales Z/3105 Royal Naval Volunteer Reserve

David William Evans of Cardigan. Private, Northumberland Fusiliers

Wythnos/week 133: 16-22 Chwefror/February 1917

[English below]

Mwy o golledion yr wythnos yma, a pharhau mae’r adroddiadau o newyddion diflas. Estynna Cyngor Tref Aberteifi bleidlais o gydymdeimlad gyda gweddw a theulu y diweddar Forwr John James (HMS Laurentic) ac hefyd gyda pherthnasau Mr Llewellyn Morgan. Ceir cofnod eto am y ddau yn y golofn ‘Killed in Action’ ochr yn ochr â Phreifat David Williams, Mr John Henry Lloyd a W. Elwyn Evans (yr olaf o dan golofn Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau).

Ceir cofnod trist arall ym Mwrdd Gwarcheidwaid Sir Aberteifi: Undeb Tregaron, pan dynnwyd sylw’r gwarcheidwaid at achos baban bach a anwyd yn Ystrad Meurig.Bu farw mam y baban yn fuan ar ol yr enedigaeth ac mae’n debyg fod y tad yn gwasanaethu yn y Fyddin ar hyn o bryd.

Yn Aberystwyth cofnodwyd yn llyfr log Ysgol Genedlaethol Aberystwyth fod £83.4s.6c ar fantolen Cynilon y Rhyfel tra galwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Cynhyrchu Bwyd i dderbyn Dirprwyaeth o Gymdeithas Rhandiroedd Aberystwyth.

More losses, and gloomy news continues to be reported. Cardigan Town Council express votes of condolences with the widow and family of the late Seaman John James (HMS Laurentic) and also with the relatives of Mr Llewellyn Morgan. Both are again mentioned under the column ‘Killed in Action’ alongside Private David Williams, Mr John Henry Lloyd and W. Elwyn Evans (the latter under Births, Marriages and Deaths)

Another sad record is to be found in the Cardiganshire Board of Guardians: Tregaron Union where in Ystrad Meurig the case of a baby whose mother has died soon after the birth is brought to the attention of the guardians. Apparently the baby’s father is at present serving in the Army.

In Aberystwyth the Returns of War Savings recorded in the Aberystwyth National School log book is £83.4s.6p whilst a meeting of the Food Production Committee is called to receive a Deputation from the Aberystwyth Allotments Association.

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

 

Colledigion/Losses

18 Chwefror/February 1917

Daniel Owen of Llangrannog, aged 43. Captain, Mercantile Marine

Enoch Lewis James of New Quay, aged 27. Second Lieutenant, Royal Welch Fusiliers

20 Chwefror/February 1917

Daniel Evans of Llanrhystud, aged 24. Private, South Wales Borderers

Wythnos/Week 131: 2-8 Chwefror/February 1917

[English below]

Ceir adroddiadau o Aberteifi ynglŷn â cholli Is- gapten D.T. Emyr James a Llongwr John James – y ddau yn gwasanethu ar yr H.M.S. Laurentic.

O ganlyniad i forwriaeth celfydd Is-gapten Parry ym Mor y Canoldir, achubwyd 32 o ddynion o long-gludo Brydeinig a drawyd gan dorpido o long danfor.

Ysgrifenna Gregory Kean yn ‘Nodion o Lundain,’ am ymadawiad Daniel Jones o Aberporth am Ffrainc gan ddymuno bydd yn dychwelyd yn iach ac wedi gorchfygu’r gelyn.

Casglwyd dim llai na £35,652 5s 2d o gynilon rhyfel gan ysgolion cynradd y Sir yn ystod yr wyth wythnos yn gorffen ar yr 21ain o Ionawr.

Mae’n ofynnol i bob cyflogwr restru enwau’r holl ddynion o 16 i 41 oed sydd yn eu cyflogaeth ar ffurflen D.R.17 ac i anfon y gwybodaeth ymlaen i’r Swyddog Recriwtio yn eu hardal, tra anfonir llythyr i’r Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George oddi wrth Cyngor Sir Aberteifi yn apelio i’r Llywodraeth gymryd y camau priodol i wahardd diod feddwol yn ystod y Rhyfel ac am rhai misoedd i ddilyn.

Mae’r darn ‘Profiad y Pererin’ sydd i’w ganu ar y dôn ‘Strafe y Kaiser’ yn sôn am brinder siwgr, burum, diod, a.y.b.

Mae Daisy Jones (gweler wythnos 118) yn derbyn carden bost arall, y tro yma oddi wrth Betty sydd yn Carn Brea yng Nghernyw.

Ceir rhagor o hysbysebion yn y Cardigan and Tivyside sy’n cyfeirio at y rhyfel:

‘Mae cyfle i wirfoddolwyr sifil i wasanaethu eu gwlad;’ ‘Tanks’ – cartwn sy’n cael ei harddangos yn y Pavilion yn Aberteifi; ‘Celfi cyfforddus wedi eu gwneud â llaw gan ‘Hughes Furniture Store’ -‘Erbyn daw y bechgyn adre’ ac y mae ‘Furniture Warehouse’, Pendre yn Aberteifi wedi cyhoeddi rhyfel ar nwyddau israddol o dramor.

There are reports from Cardigan regarding the loss of Lieutenant D. T. Emyr James and Seaman John James who were serving aboard the H.M.S. Laurentic.

The smart seamanship of Lieutenant Parry in the Mediterranean results in the rescue of 32 men from a British transport which had been torpedoed by a U-boat.

Gregory Kean writes of Daniel Jones of Aberporth leaving for France and wishes for his safe and triumphant return in ‘Nodion o Lundain’ (Notes from London)

No less than £35,652 5s 2d. war savings has been collected in the elementary schools of Cardiganshire during the eight weeks ending January 21st.

Employers are required to list all males between the ages of 16 and 41 in their employment and to forward this list (Form D. R. 17) to the Recruiting Officer for their locality whilst a letter is sent to the Right Hon. D. Lloyd George from Cardigan County Council appealing to the Government to take steps to prohibit intoxicating liquor during the war and for some months afterwards.

Profiad y Pererin (‘A Pilgrim’s Experience’) to be sung to the tune ‘Strafe the Kaiser’, is a poem written about the scarcity of things such as sugar, yeast, drink, etc.

Miss Daisy Jones (as in week 118) receives another postcard. This time it is from Betty who is at Carn Brea in Cornwall.

Adverts with references to the War continue to be published in the Cardigan and Tivyside:

‘An opportunity for civilian volunteers to serve their country’; ‘Tanks’ – a cartoon to be shown in the Pavilion Cardigan; comfortable home-made furniture from Hughes’ Furniture Store for ‘When the Boys come home’ and the Furniture Warehouse at Pendre, Cardigan have ‘declared WAR on all shoddy foreign goods’

[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]

Colledigion/Losses

5 Chwefror/February 1917

Nathaniel Edwards of Llanon, aged 38. Private, Rhodesia Regiment

Evan Davies of Sarnau, aged 23. Private, Lancashire Fusiliers

James Parry Thomas of New Quay, aged 43. First Mate, Mercantile Marine

John Henry Lloyd of Llangoedmore, aged 22. Fourth Engineer Officer, Mercantile Marine

Herbert Price Davies of Llanon, aged 31. Private, Royal Fusiliers

Walter Raymond Hicks of Llanon, aged 19. Private, Royal Fusiliers

6 Chwefror/February 1917

Llewellyn Morgan of Cardigan, aged 24. Able Seaman, Royal Naval Volunteer Reserve