[English below]
Ceir dwy erthygl yn y papurau newydd am y diweddar Brif Stiward E. Garbett Jones, a fu farw pan ddrylliwyd ei long gan dorpido, ac fe gynhelir gwasanaeth er cof amdano yn Eglwys y Plwyf yn Llechryd.
Mae’r teulu Vansteelandt yn mynegi diolch i Bwyllgor Ffoaduriaid Llangoedmor a Llechryd.
Gwelwn luniau o ddau filwr o Benparcau, sef y Magnelwr M.L. Edwards a’r Preifat Joseph Ashworth, yr olaf ohonynt a laddwyd ar Ffrynt y Gorllewin fis Mawrth y llynedd. Daethpwyd â chorff y Cloddiwr Henry White adref i Aberystwyth ac fe’i claddwyd â’r holl anrhydeddau milwrol yr wythnos flaenorol. Mae’r Is-gorporal Tom Gwyndraeth Richards o Geinewydd yn anfon llun ohono’i hun o’r Almaen , ble mae’n cael ei ddal yn garcharor.
Daw llawer o filwyr adref am seibiant a chyflwynir arian iddynt: saith milwr ifanc yn Nhal-y-bont, Preifat Iwan Jones yn Nhregaron, y Gyrrwr Edward Jones-Edwards yn Lledrod a’r Corporal William Timothy Evans yn Llwyngroes yng Nghwm Rheidol. Yn Y Borth cynhelir y cyngerdd cyntaf i groesawu’r Corporal J.J. Davies yn ôl adref, ac mae Capten Thomas, Randal S. Thomas, Evan O. Thomas, Stephen Lewis Edwards a D. Daniel Davies o Aberporth wedi derbyn swm anrhydeddus yn wobr am achub eu llong drwy suddo llong danfor fis Medi’r llynedd.
Cafodd Mr Tommy Davies o Lanon ddihangfa heb gael niwed pan ddrylliwyd ei long gan dorpido.
Ceir adroddiadau yn Gymraeg a Saesneg ynglŷn â throi i amser yr haf cyn bo hir, a fydd yn para am chwe wythnos ar hugain.
Ceir mwy o ymdrin â’r sefyllfa tua’r dwyrain o dan y penawdau ‘Trueni Rwsia’ a ‘Disgwyl yr Ergyd’, gan sôn fod disgwyl bod yr Almaenwyr ar lansio ymosodiad ar y wlad, ar y fath raddfa fel y creda’r gohebydd y bydd yn drech na’r Cynghreiriaid.
Sonnir am ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi – ar un llaw dywedir na chafwyd cystal gwledd eleni oherwydd prinder nwyddau, ond ar y llaw arall mae’r golofn ‘Week by Week’ yn dweud fod digonedd o gennin, prif fwyd y Cymry, o weld faint o bobl a fu’n eu gwisgo ar y diwrnod.
The late Chief Stewart E. Garbett Jones who lost his life when his ship was torpedoed is mentioned twice in the newspapers as a memorial service is held for him in the Parish Church of Llechryd.
The Vansteelandt family express their thanks to the Llangoedmore and Llechryd Refugee Committee.
Photographs appear of Penparke soldiers, Gunner M.L.Edwards and Private Joseph Ashworth; the latter was killed on the Western Front last March. The body of Sapper Henry White was brought home to Aberystwyth and interred with military honours last week. New Quay War prisoner Lance Corporal Tom Gwyndraeth Richards has sent home a photograph of himself from Germany.
Many soldiers are home on leave and are presented with sums of money: seven soldier boys in Talybont, Private Iwan Jones in Tregaron, Driver Edward Jones-Edwards in Lledrod and Corporal William Timothy Evans at Llwyngroes in the Rheidol valley. Borth hosts its first reception concert to welcome home Corporal J.J. Davies, whilst Captain Thomas, Randal S. Thomas, Evan O. Thomas, Stephen Lewis Edwards and D. Daniel Davies of Aberporth have received a substantial sum as an award for saving their ship by sinking a submarine in September last.
Mr Tommy Davies of Llanon has escaped unhurt when the ship on which he was serving was torpedoed.
Reports appear both in Welsh and English regarding the imminent summer time hours which will be brought into force earlier this year and will continue for a period of 26 weeks.
Further Welsh reports ‘Trueni Rwsia’ and ‘Disgwyl yr Ergyd’ refer to the Russian situation and the expectation of an impending German attack which the reporter believes will be on a scale which will overtake the Allies.
St David’s Day celebrations are mentioned – on the one hand it is noted that feasting may be on a lesser scale this year due to the scarcity of commodities, but on the other hand ‘Week by Week’ observes that there seems to be an abundance of ‘the Welshman’s staple food’ judging by the number of leeks worn on the day.
[Rhowch glic ar luniau i’w gwneud yn fwy / Click images to enlarge]
Colledigion/Losses
1 Mawrth/March 1918
Basil Lougher Davies of Borth, aged 20. Sailor, Mercantile Marine
James Davies of Llechryd, aged 34. Lance Corporal, Rifle Brigade
Evan Daniel Evans of Felinfach, aged 37. Private, Monmouthshire Regiment
Morgan Morgans of Borth, aged 29. Sailor, Mercantile Marine
Hugh James of Borth, aged 37. Boatswain, Mercantile Marine
2 Mawrth/March 1918
Edward Morgan of Bronant, aged 31. Gunner, Royal Field Artillery
3 Mawrth/March 1918
Thomas Davies of Llanarth, aged 17. Able Seaman, Mercantile Marine