[English below]
Mae Llanbedr Pont Steffan wedi dathlu’r Heddwch ac wedi cynhyrchu coflyfryn tra bo trefniadau ar droed ar gyfer dathliadau ym mhentref Ponthirwen. Ysgrifenna James Rees o Dalgarreg yn ei ddyddiadur y bydd te parti a mabolgampau yn Nhalgarreg. Mae’r coed derw a blannwyd gan y Maer a’r Faeres yn Aberystwyth yn ffynnu.
Cynhelir cyngerdd yng Nglynarthen i groesawu Is-gorporal E. O. Williams gartref. Bu ar wasanaeth gweithredol yn Yr Aifft a Phalestina am ryw dair blynedd.
Mae Preifat E.O. James o Feulah, a welodd ymladd caled yn Salonika, wedi’i ryddhau o’r Fyddin.
Mae cynulleidfa fawr yn ymgynnull mewn cyngerdd yn y Pavilion, Aberteifi. Mae’r cyngerdd er budd Cronfa Goffa Arwyr a Laddwyd Aberteifi a’r Fro.
Gobaith R.S.M. Fear yw y bydd pob milwr a chyn-filwr yn bresennol yn angladd William James Davies, Maes Cambria, Aberystwyth. Cafodd Mr Davies ei ryddhau ar y 5ed o Chwefror ar ôl gwasanaethu fel anelwr drwy’r rhyfel.
Cofir yn annwyl gan ei fam a’i chwiorydd am y Preifat John Hugh Joel, 34 oed o Aberystwyth a laddwyd wrth ei waith yn Ypres ar Awst 16eg, 1917.
Ceir adroddiad gan F.S. Trufant o Aberarth ar gyfarfod cyffredinol Cymrodyr Caerdydd yng ngholofn y cymrodyr (Comrades Column) a’r penderfyniadau a wnaed. Lluniwyd agenda mewn cyfarfod cyffredinol yn Aberarth ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol a fydd yn cwrdd yn Amwythig.
Bydd y Llyngesydd Webley-Hope, sydd â chofnod parchus o wasanaethu yn y Llynges, yn chwifio ei faner o fast llong ei Mawrhydi, Cardiff, sydd ar yr Adriatig erbyn hyn.
Bydd cardiau dogni newydd yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd drwy’r Swyddfeydd Bwyd lleol er mwyn disodli’r llyfrau dogni presennol.
Cyhoeddir 2 gerdd yn y papurau newydd: Heddwch gan Lloyd Rowlands o Daliesin ac A Fu ac a Fydd gan D. Edwards Davies o Aberystwyth.
Mae ‘Ceisio Difa’r Drwg’ yn cyfeirio at orbrisio nwyddau gan fasnachwyr a’r posibilrwydd o geisio sefydlu llysoedd lleol i ddelio â chwynion lleol.
Mae ‘Diolch y Genedl’ yn adrodd ar bleidlais o ddiolch gan y Senedd yr wythnos ddiwethaf i filwyr a morwyr a phawb arall a gyfranogodd yn y frwydr fawr dros ryddid a diogelwch. Ysgrifennodd Aronfa, y soniwyd amdano’n aml yn y papurau newydd yn ystod y rhyfel, lythyr i’r Cardigan and Tivyside Advertiser yn datgan ei fod ar fin cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau milwrol a bydd ar gael i ddarlithio yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf sydd i ddod. Mae’n cyflwyno ystod o destunau : “Pedair Blynedd yn y Fyddin”, “Preifat John Jones”, “Maes y Gad”, “John Ruskin”, “Uffern”, “Dyn a’i Hawl”.
Lampeter has celebrated the Peace and produced a souvenir booklet whilst arrangements for celebrations are in hand at the village of Ponthirwen. James Rees of Talgarreg writes in his diary that there is to be a tea party and sports at Talgarreg. In Aberystwyth the oak trees planted by the Mayor and Mayoress are thriving.
A reception concert to welcome home Lance Corporal E.O. Williams is held in Glynarthen. He has been on active service in Egypt and Palestine for about three years.
Private E.O. James of Beulah is now discharged from the Army having seen some hard fighting at Salonika.
A large audience assembles to a concert at the Pavilion, Cardigan. The concert is in aid of the Cardigan and District Fallen Heroes Memorial Fund.
R.S.M. Fear hopes all service and ex-service men will attend the funeral of William James Davies, Cambrian Square, Aberystwyth. Mr Davies had been discharged on February 5th after having served as gunlayer throughout the war.
34 year old Private John Hugh Joel of Aberystwyth who was killed in action at Ypres on August 16th, 1917 is ever remembered by his loving mother and sisters.
F.S. Trufant of Aberarth gives a report on the general meeting of the Cardiff Comrades in the Comrades Column and of the resolutions passed. An agenda has been compiled a general meeting at Aberarth for the Executive Committee which is to meet at Shrewsbury.
Admiral Webley-Hope who has a distinguished war record of service in the Navy is to fly his flag from the mast of His Majesty’s Ship Cardiff, which is now in the Adriatic.
New ration cards are to be issued through the local Food Offices to the public to replace the present ration books.
2 poems are printed in the newspapers,- ‘Heddwch’ (‘Peace’) by Lloyd Rowlands of Taliesin and ‘A Fu ac a Fydd’, (What Has Been And What Is To Be) by D.Edward Davies of Aberystwyth.
‘Ceisio Difa’r Drwg’ (‘Trying to destroy the evil’) refers to the overpricing of goods by traders and the possibility of setting up local courts to deal with local complaints.
‘Diolch y Genedl’ (‘Thanking the Nation’) reports on last week’s vote of thanks by Parliament to soldiers and sailors and everyone else who took part in the great battle for freedom and safety.
Aronfa who was often mentioned in the newspapers during the war has written a letter to the Cardigan and Tivyside Advertiser stating that he is about to be released from military duties and will be available for lectures during the forthcoming autumn and winter. He presents a choice of topics: ‘Pedair Blynedd yn y Fyddin’, (Four Years in the Army), ‘Private John Jones’, ’Maes y Gad’ (The Battlefield), ’John Ruskin’, ‘Uffern’ (Hell), ‘Dyn a’i Hawl’, (Man and his Rights).
Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy/Click on the images below to enlarge