Yr wythnosau olaf o’r flwyddyn 1919 /The final weeks of 1919

[English below]

Yn dod i ddiwedd 1919 mae llai o adroddiadau yn ymwneud â’r Rhyfel ond mae enwau’r rhai sy’n dychwelyd yn parhau i gael eu crybwyll;

Mae Dr Garfield Evans o Aberaeron adref o India ac mae’r Preifat Morgan wedi dychwelyd i Gwm Rheidol. Mae Mr William Jones a Mr Hughie Edwards wedi cyrraedd adref yn Nhregaron tra bod Mr Basil Williams, mab y Capten James Williams o Aberystwyth wedi dychwelyd i Aberystwyth o India cyn dadfyddino.

Perfformir cyngherddau croeso adref i eraill. Mae pawb yn Horeb, Penrhyn-coch yn falch o weld William H Evans sydd wedi gwasanaethu yn India, Mesopotamia a Salonika, tra bod y Gynnwr William Jones a’r Morwr D.J. Davies ill dau yn cael siec gan Bwyllgor Adloniant Pontarfynach. Gwneir cyflwyniad hefyd i’r Preifat David Jones yn Llangwyryfon. Cyflwynir siec yn y Borth i’r Preifat John Daniel Ynysybont, sydd wedi gweld amseroedd anodd ar wasanaeth gweithredol yn Ffrainc.

Mae teuluoedd yn parhau i alaru a chofir enwau’r rhai sydd wedi syrthio,- y Gynnwr R.W. Milman o Drefechan, y Cloddiwr D.M. Richards o Drawsgoed a Jim Jones, Stryd y Tollty.

Yn anffodus mae David Jones o Bont-tyweli nad oedd wedi cael ei ddadfyddino ers hir ac a oedd wedi dal malaria wrth wasanaethu yn Salonica, wedi marw o niwmonia.

Mae’r Morwr D.J. Davies o ardal Mynydd bach i ddilyn cwrs astudiaethau yng Ngholeg Aberystwyth ar ôl manteisio ar grant y Llywodraeth i gyn-filwyr.

Yn Aberteifi mae Tom Wilson a oedd ar flaen y gad yn y Magnelwyr Brenhinol wedi cael diddymiad priodas gyda’i wraig ar sail ei chamymddwyn â John A. Bedford.

Y bwriad yw sefydlu Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth fel cofeb i sylfaenwyr y Coleg, i’r diweddar brifathrawon ac i’r cyn-fyfyrwyr hynny a syrthiodd yn y Rhyfel.

Gwneir apêl gan faer Aberystwyth am gyfraniadau tuag at gynllun Pwyllgor y Gofgolofn Rhyfel o godi £10.000 er mwyn codi cofeb barhaol i’r rhai sydd wedi aberthu eu hunain er diogelwch ac iachawdwriaeth eraill.

Mae Pwyllgor Cynilion Cenedlaethol Aberystwyth wedi penderfynu ar Ionawr 8fed fel y dyddiad ar gyfer derbyn y tanc, yr oedd y dref wedi’i ennill am ei chyfraniadau i gronfeydd y rhyfel, gan Aberystwyth.

Mae Mr Griffiths, mab y diweddar Mr W. Griffiths wedi cyfrannu dwy gini at Gronfa Neuadd Goffa Aberaeron.

Mae Mr T.J. Green o Oginan wedi derbyn y Fedal Filwrol am ddewrder nodedig ar faes y gad wrth esgair Vimy ac mae Mrs Rhoda Jones o Aberystwyth wedi derbyn siec gan Bwyllgor Amaethyddol y Rhyfel i werthfawrogi ei gwasanaethau yn ystod y rhyfel.

Nadolig 1919 ac mae Stuart Baker yn ysgrifennu yn y Cardigan and Tivyside y bydd ‘Christmas 1919 will rank as one of the most memorable in the annals of the world’, a gobeithio y bydd cysgodion tywyll y gorffennol yn ffoi i ffwrdd. Fodd bynnag, mae effeithiau’r rhyfel yn parhau ac mae Syr Thomas Middleton yn annerch Cymdeithas Amaethyddol Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ynghylch a ellir bwydo poblogaeth Prydain? Cwestiwn arall sydd wedi codi yn Nhŷ’r Cyffredin (‘Ceisio Lleddfu’r Trueni’) yw sut mae sefyllfa druenus Ewrop, ac yn enwedig Awstria sydd ar fin llwgu, i’w datrys.  Yn ôl Mr Lloyd George mae hanes yn cofnodi amgylchiadau tebyg am nifer o flynyddoedd ledled Ewrop ar ôl Rhyfeloedd Napoleon.

Ac yn olaf, mae F.S Trufant, ysgrifennydd anrhydeddus cangen Aber-arth y Cymrodyr yn ysgrifennu am y wasg yn adrodd am ymweliadau twristiaid â meysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys a sut, nawr bod sensoriaeth wedi dod i ben, ‘nad oes angen bellach i guddio’r ffaith bod miliwn o eneidiau dewr wedi gadael y ddaear hon heb unrhyw fwriad arall na llenwi mynwentydd tlws i ffotograffwyr amatur y wasg ymarfer arnynt’.

Coming to the end of 1919 there are fewer reports relating to the War but the names of those returning continue to be mentioned;-

Aberaeron’s Dr Garfield Evans is home from India and Private Morgan has returned to Rheidol Valley. Mr William Jones and Mr Hughie Edwards have arrived home in Tregaron whilst Mr Basil Williams, son of Captain James Williams of Aberystwyth has returned to Aberystwyth from India before demobilisation.

Welcome home concerts are performed for others. Everyone at Horeb, Penrhyncoch are pleased to see William H Evans who has served in India, Mesopotamia and Salonika, whilst Gunner William Jones and Seaman D.J. Davies are both presented with a cheque by the Devil’s Bridge Entertainment Committee. A presentation is also made to Private David Jones in Llangwyryfon. Private John Daniel Ynysybont, who has seen hard times on active service in France is presented with a cheque in Berth.

Families continue to grieve and the names of the fallen,- GunnerR.W. Milman of Trefechan, Sapper D.M. Richards of Crosswood and Jim Jones, Custom House-Street are remembered.

Sadly David Jones of Pontwelly who had not long been demobilised and who had contracted malaria whilst serving in Salonica, has died from pneumonia.

Seaman D.J. Davies from the Mynydd bach area is to pursue a course of studies at Aberystwyth College having taken advantage of the Government grant to ex-service men.

In Cardigan Tom Wilson who was at the front in the Royal Artillery has been granted a dissolution of marriage with his wife on the ground of her misconduct with John A. Bedford.

It is proposed to establish the Students’  Union in Aberystwyth as a memorial to the founders of the College, to the late principals and to those past students who fell in the War.

A appeal is made by the mayor of Aberystwyth for contributions towards the War Memorial Committee’s scheme of raising £10.000 in order to riase a permanent memorial to those who have sacrificed themselves for the safety and salvation of others.

The Aberystwyth National Savings Committee has decided upon January 8th as the date for the tank, which the town had won for its contributions to the war funds, to be received by Aberystwyth.

Mr Griffiths, the son of the late Mr W. Griffiths has contributed two guineas to the Aberaeron Memorial Hall Fund.

Mr T.J. Green of Goginan has received the Military Medal for conspicuous bravery on the field at Vimy ridge and Mrs Rhoda Jones of Aberystwyth has received a cheque from the War Agricultural Committee in appreciation of her services during the war.

Christmas 1919 and Stuart Baker writes in the Cardigan and Tivyside that ‘Christmas 1919 will rank as one of the most memorable in the annals of the world’, and hopefully the dark shadows of the past will flee away. However the effects of the war continue and Sir Thomas Middleton addresses the Agricultural Society of the University of Wales at Aberystwyth as to whether the population of Britain can be fed? Another question which has arisen in the House of Commons (‘Ceisio Lleddfu’r Trueni’) is that of how the pitiful situation of Europe, and especially Austria which is on the brink of starvation,  is to be resolved.  According to Mr Lloyd George history records similar circumstances for many years across Europe after the Napoleonic Wars.

And finally, F.S Trufant, hon.sec., of the Aberarth  branch of the Comrades writes of the press reporting the visits of tourists to the battlefields of France and Flanders and how, now that censorship has ended, ‘there is no longer any need to hide the fact that a million gallant souls departed this earth with no other object than that of filling pretty cemeteries for amateur press photographers to practise on’

Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy / Click on images below to enlarge

 

Wythnos/Week 272, Hydref/October 19-26 1919

[English below}

 Sonnir am angladd y diweddar Lefftenant Berrington-Davies (fel y soniwyd yr wythnos diwethaf) yn y papur newydd. Mae cyd-swyddog wedi ysgrifennu mai’r Is-gapten Berrington-Davies yn esgeuluso’i hun a gwneud ei ddyletswydd pan ddylai fod wedi bod yn yr ysbyty oedd achos ei farwolaeth.

Mae trasiedi Cribyn y soniwyd amdani yn ystod yr wythnosau blaenorol yn y newyddion eto. Daeth y rheithgor i’r casgliad fod y ddau frawd cyhuddedig o Glawddmoel yn ‘ddieuog’.

Mae’r Rhingyll A.W. Perry Morgan o Aberystwyth wedi cael ei ddadfyddino tra bod cinio croeso adref mewn cysylltiad ag adran argraffu’r Cambrian News wedi’i roi yn y Central Hotel.

Mae’r Rhingyll H.E. Smith wedi’i gynnwys yn y rhestr o enwau a ddygwyd i sylw’r Swyddfa Ryfel am wasanaethau mewn cysylltiad â’r rhyfel.

Mae William Jones, a elwir hefyd Mason a gafodd ei ddadfyddino ag enw da, wedi pledio’n euog i briodas ddwywreigiog ac mae wedi cael ei anfon i’r carchar gyda llafur caled am naw mis.

Cyhoeddwyd canlyniad Etholiad Trefol Aberteifi gan y Maer. Roedd pleidlais y menywod yn un gref. Derbyniwyd y nifer fwyaf o bleidleisiau (721) gan ymgeisydd y Morwyr a’r Milwyr, Griff R. Jones.

Mae ‘Llith y Milwr’ yn sylwebaeth ar yr oes newydd gan I. Aronfa Griffiths. Mae’n credu bod y mwyafrif yn cytuno ag ef nad yw’r oes newydd hon o frawdoliaeth fel y clywyd amdani yn y ffosydd yn amlwg o gwbl yn ein gwlad heddiw.

Mae sefydliadau Cynghrair y Cenhedloedd ledled y wlad yn annog y dylid cadw dydd Sul nesaf fel diwrnod o ddiolchgarwch am heddwch.

The late Lieutenant Berrington-Davies’ (as mentioned last week) funeral is reported in the newspaper. A brother officer has written that Lieutenant Berrington- Davies’ neglect of himself and sticking to his duty when he should have been in hospital was the cause of his death.

The Cribyn tragedy which was reported in previous weeks is again in the news. Both accused brothers of Clawddmoel were found by the jury to be ‘not guilty’ and they were acquitted.

Sergeant A.W. Perry Morgan of Aberystwyth has been demobilised whilst a welcome home dinner in connection with the printing department of the Cambrian News has been given at the Central Hotel.

Sergeant H.E. Smith is included in the list of names brought to the notice of the War Office for services in connection with the war.

William Jones, alias Mason who was demobilised with a good character, has pleaded guilty to a bigamous marriage and has been sent to prison with hard labour for nine months.

The result of the Cardigan Municipal Election was declared by the Mayor. The ladies’ vote was a strong one. The greatest number of votes (721) was received by the Sailors and Soldiers candidate, Griff R. Jones.

‘Llith y Milwr’ (The Soldier’s Lesson), is a commentary on the new age by I. Aronfa Griiffiths. He believes that the majority are in agreement with him that this new age of brotherhood as was heard of in the trenches is not at all evident in our country today.

The League of Nations’ organisations throughout the land are urging that Sunday next be observed as a day of thanksgiving for peace.

Cliciwch ar y lluniau i’w gwneud yn fwy/Click on images to enlarge

Wythnos/week 271: 12-18 Hydref/October 1919

[English below]

Mae ysgrifau coffa’r Lefftenant George Stewart Berrington-Davies a’r Uwchgapten Prioleau yn ymddangos yn y papur newydd. Roedd y cyntaf wedi gwasanaethu yn Rwsia cyn mynd yn sâl a chael ei ollwng yn wael o’r fyddin tra bod yr ail wedi bod yn aelod o’r Staff Cudd-wybodaeth yn yr Aifft.

Yn Memoriam,- cofir y canlynol,- y Lefftenant 22 mlwydd oed S.D. Evans o Feulah, y Cloddiwr David Lloyd, y Preifat 19 mlwydd oed David Lewis Richards o Aberystwyth a’r Is-gorporal E.D. Rowlands o Dan-y-Cae, Aberystwyth.

Yn ffodus mae eraill wedi dychwelyd adref. Ym Mrongest cynhelir cyngerdd i Willie H. Jones, Nathan Davies ac Evan Owen James ac mae ffrindiau’n falch iawn o groesawu’r Preifat Tom Thomas adref yn Henllan. Mae’r Preifat David Davies o Gwm Rheidol wedi cael ei ddadfyddino fel y mae’r Gynnwr William Jones o Bontarfynach a thri arall yn Nhregaron,-Dr D.R. Jones o Salonica; y Preifat R.T. Jones o India; a’r Preifat Gomer Evans o Ffrainc.

Mae Johnnie Jones o Landysul, a gafodd ei ddadfyddino’n ddiweddar, yn priodi Miss Mary Jones ac yn y Borth mae T.R. Jones wedi cychwyn ar ei ddyletswyddau fel clerc rheilffordd.

Nid yw dadfyddino Byddin Tir y Menywod yn golygu tynnu’r gweithwyr yn ôl. Mae cyflogwyr yn awyddus i’w cadw lle bynnag y bo modd i wneud hynny.

Mae trethdalwyr Aberteifi wedi mynychu cyfarfod a gynhaliwyd i hyrwyddo ymgeisyddiaeth M Griff Jones, sy’n rhedeg o dan nawdd Ffederasiwn y Milwyr a’r Morwyr a Ryddhawyd.

Mae ‘Beddau’r Dewrion’ yn nodi bod llawer wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddarganfod pwy sy’n gorwedd o dan y beddau dienw sy’n gorwedd yn nhir Gogledd Ffrainc a Fflandrys. Y gobaith yw cwblhau’r dasg hon erbyn mis Mawrth nesaf. Yn y cyfamser ni chaniateir i unrhyw un fynd draw i weld y beddau nes bod y gwaith o’u cofrestru wedi’i gwblhau.

The obituaries of Lieutenant George Stewart Berrington-Davies and Major Prioleau appear in the newspaper. The former had served in Russia before becoming ill and being invalided home whilst the latter had been a member of the Intelligence Staff in Egypt.

In Memoriam,- the following are remembered,- 22 year old Lieutenant S.D. Evans of Beulah, Sapper David Lloyd, 19 year old private David Lewis Richards of Aberystwyth and Lance-Corporal E.D. Rowlands of South-road, Aberystwyth.

Happily others have returned home. In Brongest a concert is held for Willie H. Jones, Nathan Davies and Evan Owen James and friends are very pleased to welcome home Private Tom Thomas in Henllan. Private David Davies of Rheidol Valley has been demobilised as has Gunner William Jones of Devil’s Bridge and three others in Tregaron,-Dr D.R. Jones from Salonica; Private R.T. Jones from India ; and Private Gomer Evans from France.

Recently demobilised Johnnie Jones of Llandyssul marries Miss Mary Jones and in Borth T.R. Jones has commenced duties as railway clerk.

The demobilisation of the Women’s Land Army does not involve the withdrawal of the workers. Employers are anxious to retain them wherever possible to do so.

Ratepayers of Cardigan have attended a meeting which was held to further the candidature of M Griff Jones, who is running under the auspices of the Discharged Soldiers and Sailors Federation.

‘Beddau’r Dewrion’, (the Graves of the Brave), reports that during the past year much has been done to discover who lies under the unnamed graves which lie in the land of Northern France and Flanders. It is hoped to complete this task by next March. Meanwhile no one is allowed to go over to view the graves until the work of registering them is completed.

Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy/Click on the images below to enlarge

 

Wythnos/week 270: 5-11 Hydref/October 1919

[English below]

‘In Memoriam’ – mae Lizzie Williams a oedd wedi gweithio yn Ffatri Arfau Pen-bre ac a fu farw yn Aberteifi ym 1916 yn cael ei chofio gan ei mam a’i brawd.

Nodir yn y Cardigan and Tivy-side fod enw’r Preifat James Davies o Lechryd wedi’i hepgor o’r rhestr o arwyr sydd wedi cwympo.

Mae rhagor o filwyr Aber-porth yn cael eu dadfyddino: David John Jones ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth gweithredol, Tom Hywel Davies ar ôl bod ar y môr am dros dair blynedd a John Daniel Jenkins ar ôl treulio llawer o’i amser yn Ffrainc a Gwlad Belg.

Yn Swyddffynnon, mae argymhellion y Pwyllgor Cofebau wedi’u mabwysiadu yn yr ystyr y dylid gosod ffenestr liw yn Eglwys Ystradmeurig a senotaff gwenithfaen ar sgwâr y pentref yn Swyddffynnon.

Yn Aberteifi cynhelir ”Cinio Heddwch” ar gyfer dros 50 o ddynion cyhoeddus mwyaf blaenllaw’r dref, ynghyd â’u gwragedd.

Dywedir bod dau sefydliad gwych Aberystwyth, -Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Brifysgol, wedi wynebu’r problemau anodd a gododd ar ôl i ryfel ddihysbyddu dynion ac arian y byd. Hefyd yn Aberystwyth, agorir arddangosfa o baentiadau’r arlunydd o Wlad Belg, M. de Saadeleer, yn yr Hen Ystafelloedd Ymgynnull (Daeth M. de Saadeleer o hyd i gartref yn ardal Aberystwyth ar ôl i’r Almaenwyr oresgyn ei wlad).

Mae ‘Hiraeth y Cardi’ gan Lloyd Rowlands yn gerdd a ysgrifennwyd yn Bab-el-Hadid ar Fedi 7fed ac mae’n mynegi ei hiraeth am ddychwelyd i’w gartref yng Nghymru.

Mae’r Bwrdd Amaeth wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r cynllun ar gyfer rhoi hyfforddiant byr mewn canolfannau i gyn-filwyr cydnerth sy’n dymuno dod yn weithwyr fferm.

‘Colofn Gymysg’ – mae enwau fel Coedwig Mametz a Chefn Pilkem yn gyfarwydd i’r mwyafrif yn ogystal â rhai lleoedd eraill yn Salonica a Phalesteina. Bydd llawer o leoedd am byth yn gysegredig i’r teuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid. Mae ‘Gwersi’r Gorffennol’ yn cyfeirio at y streiciau diweddar – mae’n drawiadol sut mae’r wlad wedi ymdopi â’r sefyllfa heb fawr o drafferth yn bennaf oherwydd y profiadau a’r problemau y bu’n rhaid eu hwynebu yn ystod blynyddoedd y rhyfel.

‘In Memoriam’ – Lizzie Williams who had worked at the Pembrey Munitions Factory and died at Cardigan in 1916 is remembered by her mother and brother.

It is noted in the Cardigan and Tivyside that the name of Private James Davies of Llechryd has been omitted from the list of fallen heroes.

More Aberporth soldiers are demobilised – David John Jones after many years of active service, Tom Hywel Davies having been on the sea for over three years and John Daniel Jenkins having spent much of his time in France and Belgium.

In Swyddffynnon the recommendations of the Monuments Committee have been adopted in that there is to be an insertion of a stained glass window in Ystrad Meurig Church and a granite cenotaph on the village square at Swyddffynnon.

In Cardigan a ”Peace Dinner” is held for over 50 of the foremost public men in the town, together with their wives.

The two great institutions of Aberystwyth, -the National Library of Wales and the University are reported to have faced up to the difficult problems which arose after war had drained the world of men and of money. Also in Aberystwyth, at the Old Assembly Rooms an exhibition is opened of paintings of the Belgian artist, M. de Saadeleer. (M.de Saadeleer on the invasion of his country by the Germans found a home in the Aberystwyth area).

‘Hiraeth y Cardi’ (The Yearning of the Cardi) by Lloyd Rowlands is a poem penned in Bab-el-Hadid on September 7th and expresses his longing to return to his home in Wales.

The Board of Agriculture has decided discontinue the scheme for giving short training at centres to able-bodied ex-servicemen who wish to become farm labourers.

‘Colofn Gymysg’ , such names as Mametz Wood and Pilkem Ridge are familiar to most as well as some other places in Salonika and Palestine. Many places will forever be sacred to those families who have lost loved ones. ‘Gwersi’r Gorffennol’ (Lessons of the Past’), refers to the recent strikes,- it being impressive how the country has coped with the situation with little trouble mainly due to the experiences and problems which had to be confronted during the war years.

Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy/Click on images below to enlarge

 

Wythnos/week 269: 28 Medi/September-4 Hydref/October 1919

[English below]

Mae teuluoedd yn parhau i gofio eu hanwyliaid coll,- William D. Harper a gollodd ei fywyd ar y môr trwy ymosodiad gan y gelyn, yr Is-lefftenant Gwilym Phillips a laddwyd ar faes y gad a’r Preifat Evan Richard Jones a syrthiodd ar faes y gad yn Nhir Neb.

Yn Aberystwyth mae’r Henadur Samuel yn gofyn beth sydd wedi dod o Bwyllgor y Gofgolofn ac mae Pwyllgor Cofgolofn Rhyfel Llanbedr Pont Steffan yn penderfynu bod angen gofyn i’r cerflunydd, Syr Goscombe John am fodel plastisin o’r gofgolofn arfaethedig a fyddai o gymorth mawr i’r Pwyllgor yn ei ymdrechion i gael arian.

Mae Cyngor Aberystwyth yn penderfynu nad yw’n dymuno addurno Neuadd y Dref gyda reifflau ofer yr Almaen.

Mae’r priodfab David Llewelyn Jenkins a anafwyd deirgwaith yn y rhyfel yn priodi Jennie Margaret Evans a ddychwelodd adref ym mis Mehefin ar ôl dwy flynedd o wasanaeth fel nyrs yn y Fintai Gymorth Wirfoddol yn Ysbyty Milwrol Tidworth.

Mae R.S.M. Fear yn gofyn i Gydbwyllgor Sefydlog Sir Aberteifi am ei gefnogaeth yn ei gais i gael ei bensiwn wedi’i ailasesu yn yr un modd â phe bai wedi ailymuno â’r lluoedd yn ystod y rhyfel.

Mae tri ar ddeg o ymgeiswyr wedi cael eu dewis ar gyfer ysgoloriaethau cwrs byr gan Bwyllgor Addysg Amaethyddol Sir Aberteifi. Roedd saith o’r ymgeiswyr a ddewiswyd yn filwyr a ryddhawyd.

Yn Llandysul rhoddir cyngerdd croeso’n ôl i groesawu’r Preifat Jim Davies adref tra bod y Preifat J. Maethlon James wedi cyrraedd adref yn y Borth ar ôl cael ei ddadfyddino.

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Cymrodyr yn yr Ystafelloedd Ymgynnull, y Borth.

Families continue to remember their lost loved ones,- William D. Harper who lost his life at sea through enemy action, Second Lieutenant Gwilym Phillips who was killed in action and Private Evan Richard Jones who fell in action in No Man’s Land.

At Aberystwyth Alderman Samuel  asks what has become of the Memorial Committee and the Lampeter War Memorial Committee decide that it is necessary to ask the sculptor, Sir Goscombe John for a plasticine model of the proposed monument which would very much help the Committee in its efforts to obtain funds.

The Aberystwyth Council decide that it does not wish to decorate the Town Hall with derelict German rifles.

Bridegroom David Llewelyn Jenkins who was wounded three times in the war marries Jennie Margaret Evans who returned home in June after two years service as a V.A.D. nurse at Tidworth Military Hospital.

R.S.M. Fear asks the Cardiganshire Standing Joint Committee for its support in his application to have his pension re-assessed in the same way as if had actually rejoined the forces during the war.

Thirteen applicants have been selected for short course scholarships by the Cardiganshire Agricultural Education Committee. Seven of the chosen applicants were discharged soldiers.

In Llandyssul a reception concert is given to welcome home Private Jim Davies whilst Private J. Maethlon James has arrived home in Borth having been demobilised.

A meeting of the Comrades was held at the Assembly Rooms, Borth.

Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy/Click on images below to enlarge.